Mae’r cyn-ddyfarnwr rhyngwladol Nigel Owens yn cefnogi ymgyrch sy’n annog pobl yng Nghymru sydd am newid gyrfa i gael arweiniad a hyfforddiant arbenigol gan Cymru’n Gweithio.
Ar un adeg yn chwaraewr rygbi, a bellach yn byndit a darlledwr llwyddiannus ac yn fwyaf diweddar yn ffermwr, mae Nigel wedi newid ei yrfa sawl gwaith yn ystod ei fywyd, gan fireinio'r sgiliau y mae wedi'u hennill o'i yrfa rygbi a'r pethau y mae’n angerddol amdanynt. Mae Nigel wedi newid ei yrfa am y trydydd tro, gan droi ei law at ffermio ar ôl ailgynnau breuddwyd plentyndod yn dilyn ei ymddeoliad o rygbi.
Mae bellach yn annog eraill sydd am newid eu gyrfaoedd am amrywiaeth o resymau i gael arweiniad proffesiynol trwy ‘adolygiad gyrfa’ gyda Cymru'n Gweithio – o'r rhai sy'n bwriadu dychwelyd i'r gwaith ar ôl seibiant gyrfa, sydd mewn perygl o gael eu diswyddo, neu sydd eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd ar ôl gweithio yn yr un maes am amser hir.
Dywedodd Nigel: “Fe wnes i orffen fy ngyrfa dyfarnu broffesiynol nôl yn 2020 pan wnes i ymddeol yn swyddogol, ac fe wnaeth fy neallusrwydd o’r gêm fy helpu i gyflawni rôl fel pyndit a sylwebydd.
“Nawr rydw i wedi dechrau antur newydd gyda rhywbeth hollol wahanol – bod yn ffermwr.
“Mae ffermio wedi bod yn fy ngwaed erioed, ac mae’n rhan mor annatod o’r gymuned wledig rydw i’n byw ynddi. Pan adewais yr ysgol am y tro cyntaf, es i weithio ar fferm, gan roi cynnig ar bob math o bethau, felly mae bob amser yn rhywbeth rydw i wedi bod yn angerddol iawn amdano ac eisiau ei wneud un diwrnod.
“Fodd bynnag, yn naturiol, cymerodd dyfarnu dros fy mywyd am y degawdau nesaf, ond roeddwn i’n gwybod yng nghefn fy meddwl y byddwn i wastad eisiau mynd yn ôl i ffermio rhyw ddydd. Mae'n debyg mai dyma fy mreuddwyd ers pan oeddwn i'n wyth oed. Er bod ffermio yn fyd i ffwrdd o fywyd ar y cae, weithiau mae gyrru’r gwartheg yn mynd â fi’n ôl i fy nyddiau dyfarnu!
“Mae fy nhaith yn brawf y gallet ti droi dy sgiliau at unrhyw beth, pa bynnag gam o'th fywyd rwyt ti ynddo ac ni waeth beth oedd dy swydd flaenorol. Mae'n ymwneud â chyfateb dy sgiliau a’th angerdd i ddod o hyd i rywbeth rwyt ti’n ei garu mewn gwirionedd.”
Datgelodd arolwg gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith fod dros draean o oedolion (34%) yn bwriadu newid swydd neu yrfa yn y ddwy flynedd nesaf, a bod dros ddwy ran o dair (69%) o’r bobl sy’n bwriadu newid gyrfa yn dweud y bydd angen datblygu eu sgiliau i wneud hynny.
Mae Mandy Ifans, pennaeth cyngor cyflogaeth Gyrfa Cymru, yn esbonio beth mae adolygiad gyrfa yn ei olygu:
“Mae adolygiad gyrfa yn gyfle gwych i drafod dy sefyllfa bresennol a ble rwyt ti eisiau bod. Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim, ac mae’r sesiynau’n cael eu harwain gan gwsmeriaid, felly beth bynnag fo dy sefyllfa, rydym yn teilwra ein cyngor a chefnogaeth i’th helpu i wneud y penderfyniadau sy’n gywir i ti.
“Bydd cynghorydd gyrfaoedd yn gofyn cwestiynau i ti am dy yrfa a dy set o sgiliau presennol yn ogystal â dy obeithion a’r math o rolau yr hoffet eu gwneud nesaf. Yna, byddwn yn edrych ar ba brofiadau rwyt ti wedi'u cael a'r sgiliau trosglwyddadwy sydd gyda ti i fynd at yrfa newydd.
“Efallai fod angen cyfeiriad arnat ti ar y mathau o rolau sydd ar gael ar ôl gweithio yn yr un diwydiant am gyfnod hir, neu efallai fod gen ti syniad clir ond eisiau darganfod sut i ddiweddaru dy gymwysterau gydag unrhyw gyllid sydd ar gael. Efallai dy fod di'n awyddus i gael rhywfaint o ymarfer cyfweliad cyn cyfle cyffrous rwyt ti wedi'i drefnu.
“Beth bynnag dy sefyllfa, rydyn ni yma i dy helpu i gymryd cam nesaf dy daith gyrfa a dy gefnogi i ailfywiogi neu ddod o hyd i angerdd newydd.”
Natalie
Daeth Natalie, 53 oed, sy’n byw ym Mro Morgannwg, i Cymru’n Gweithio i gael cymorth gyrfaoedd ar ôl i salwch ei gadael yn ansicr ynghylch y camau nesaf i’w cymryd yn ei gyrfa.
Gyda chefnogaeth cynghorydd, dechreuodd Natalie archwilio ei dyheadau gyrfa, gan ystyried yr hyn a allai weithio o amgylch ei hiechyd a'r cyfyngiadau y mae'n eu hwynebu. Trwy’r arweiniad, dechreuodd Natalie siarad am ei hangerdd fel plentyn am goginio a phobi ac arweiniodd hyn at Natalie yn cwblhau cwrs hylendid bwyd.
Ers derbyn cymorth gyrfaoedd gan Cymru’n Gweithio, dechreuodd Natalie newid ei gyrfa yn raddol. Dechreuodd gyda swyddi arlwyo bach ar sail hunangyflogedig ac yna llwyddodd i gael swydd fel chef-de-partie ar sail hyblyg, rhan-amser ar is-gontract, i weithio o amgylch ei chyflyrau iechyd.
Wrth siarad am y cymorth y mae hi wedi’i dderbyn a’i newid gyrfa dilynol, dywedodd Natalie, “Roedd y sesiynau arweiniad yn allweddol i’m hysbrydoli ac i adfywio fy hunanhyder. Fe wnaethant hefyd fy helpu i ddod o hyd i'r dewrder i ofyn i ddarpar gyflogwyr am swydd.
“Rwyf wedi gallu ailddarganfod fy angerdd plentyndod ac rwyf wedi dechrau gwneud hon yn yrfa newydd i mi. Nid oeddwn i erioed wedi sylweddoli y gallai fy nghariad at goginio a phobi ddod yn yrfa newydd i mi yn fy mhumdegau gwych!”
Mae Cymru’n Gweithio yn wasanaeth a ddarperir gan Gyrfa Cymru ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae ei arweiniad proffesiynol a'i sesiynau hyfforddi yn cael eu cynnal gan dimau o gynghorwyr gyrfaoedd ledled Cymru sy'n gallu helpu pobl gyda'u taith gyrfa, ar pa bynnag gam o’u bywyd.
Am fwy o wybodaeth ac i archebu adolygiad gyrfa am ddim, cer i cymrungweithio.llyw.cymru/newid-dy-stori/adolygiad-gyrfa neu ffonia 0800 028 4844.